FIN(4)-ESF 15

 

Inquiry into Effectiveness of structural funds in Wales

 

Response from Prifysgol Aberystwyth

 

 

Ymateb Prifysgol Aberystwyth i’r Adolygiad o Weithgareddau’r Gronfa Gydgyfeiriant – Cais am dystiolaeth.

 

1.         I ba raddau rydych yn ystyried bod y Rhaglenni Cydgyfeiriant a’r Rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2007 a 2013 wedi cyflawni – neu yn cyflawni – yr amcanion ar eu cyfer?

 

Mae Prifysgol Aberystwyth (PA) wedi elwa ar gydweithredu ar brosiectau Ewropeaidd dros y 25 mlynedd diwethaf a, thrwy wneud hynny, mae wedi cyfrannu at adfywiad economaidd a chymdeithasol y rhanbarth. Mae’n sylweddoli ei bod yn bwysig defnyddio’r sector Addysg Uwch, law yn llaw â Chronfeydd Strwythurol Ewrop, i helpu i ddatblygu busnesau uwch-dechnoleg blaengar a chynaliadwy i gyfrannu at adfywiad economaidd yn gyffredinol ac i fynd i’r afael yn arbennig â’r anfanteision sy’n deillio o’r sefyllfa economaidd bresennol a’r costau ynni cynyddol, ynghyd â hybu diwydiannau gwell, glanach a mwy effeithlon.

 

I’r perwyl hwn, mae PA wedi canolbwyntio ar:

·         Fasnacheiddio a manteisio ar ymchwil a fydd yn cyfrannu at ddatblygu economaidd

·         Cynorthwyo buddiolwyr mewn ardaloedd Cydgyfeiriant i feithrin sgiliau lefel uwch drwy gyfleoedd hyfforddi pwrpasol

·         Datblygu a chyflwyno meddalwedd modelu, dadansoddi ac efelychu blaengar i gefnogi arloesedd ac i gwtogi ar yr amser cyn cyflwyno adnodd i’r farchnad

·         Cefnogi’r gwaith o ddatblygu technolegau ‘gwyrdd’ newydd a’r diwydiannau creadigol.

Un enghraifft o’r gwaith uchod yw ein prosiect BEACON (Canolfan Rhagoriaeth Bioburo), sy’n defnyddio arian Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Mae’r prosiect hwn yn troi deunydd crai o blanhigion yn fiodanwydd ac yn fiogemegau a bydd yn galluogi 202 o gwmnïau i ddefnyddio cynhyrchion ‘gwyrdd’ sy’n dod o blanhigion yn hytrach nag olew. Rydym yn cyflawni’r prosiect mewn partneriaeth â phrifysgolion Bangor ac Abertawe (gydag Aberystwyth yn arwain). Bu modd datblygu prosiect llwyddiannus drwy gyfuno arbenigedd y partneriaid, oherwydd ni fyddai wedi bod yn bosib i un brifysgol ei gyflawni gyda’i hadnoddau a’i harbenigedd presennol. Mae hwn yn brosiect gwerth dros £20m a daeth y cysyniad i’r amlwg drwy’r cyfuniad unigryw o arbenigeddau o safon byd sydd ar gael yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) PA, sy’n cwmpasu bridio planhigion, geneteg, agronomeg, bioleg celloedd, biocemeg, metaboledd carbohydrad, ensymoleg a microbioleg.

Yn yr un modd, bu i’r prosiect WISE (Sefydliad Amgylcheddau Cynaliadwy Cymru), a ddatblygwyd drwy gyllid Amcan 1 yn wreiddiol, osod y llwyfan ar gyfer datblygu WISE2 o dan y Rhaglen Gydgyfeiriant. Mae’n gyfle i fusnesau fanteisio ar arbenigedd ym maes ynni ac adnoddau amgylcheddol eraill yn PA a’r sefydliadau sy’n bartneriaid iddi. Cafodd prosiect WISE ei roi ar y rhestr fer i ennill Gwobr Effaith PraxisUnico. Roedd y dystiolaeth yn cynnwys y manylion isod:

“Mae Rhwydwaith WISE eisoes wedi dylanwadu ar bron i 500 o gwmnïau ar draws rhanbarthau cymwys Cymru. O blith y rhain, mae 119 wedi cymryd rhan mewn gwaith Ymchwil a Datblygu ar y cyd ag un neu ragor o’r Prifysgolion sy’n bartneriaid, ac mae 116 achos arall o drosglwyddo gwybodaeth amgylcheddol drwy weithdai hyfforddi a thrwy ddefnyddio cyfleusterau prifysgol yn sgil y prosiect.

Crëwyd bron i 80 o swyddi newydd yn y cwmnïoedd a gefnogwyd gennym, a chafwyd cynnydd o £4.7m yn eu trosiant ers cychwyn Rhwydwaith WISE. Cofrestrwyd patentau a nodau masnach newydd o ganlyniad i’r prosiect, a byddant yn cael effaith bellach pan fydd cynnyrch a gwasanaethau newydd sy’n seiliedig arnynt yn cael eu lansio.

Gall cwmnïoedd osod staff yng nghyfleusterau’r Brifysgol, fel labordai a thai gwydr, a darparwyd cyfanswm o 2130m2 o ofod ar gyfer technoleg, arloesi, Ymchwil a Datblygu, a deori i gwmnïoedd yn sgil y prosiect. O ganlyniad i Rwydwaith WISE, llwyddodd bron i 500 o gwmnïoedd i gynyddu eu llwyddiant ariannol ac i leihau’u heffaith ar yr amgylchedd.”                

Mae’r hinsawdd economaidd bresennol, nad yw’r sector Addysg Uwch wedi’i diogelu rhagddi, wedi creu cyd-destun heriol iawn i bwyso a mesur y cwestiwn hwn. Yn erbyn y cefndir economaidd a chymdeithasol tymhestlog hwn, mae rhaglenni’r cronfeydd strwythurol hyd yn oed yn bwysicach na’r disgwyl. Mae’r tueddiadau o ran cyflogaeth a’r farchnad lafur yn parhau ar i lawr. Mae grwpiau penodol o dan anfantais arbennig – pobl ifanc sydd am gael mynediad i’r farchnad lafur, y rheini sydd wedi’u lleoli ymhellach oddi wrth wasanaethau, a busnesau bach nad oes ganddyn nhw gyfalaf nac adnoddau eraill i’w defnyddio fel clustog economaidd i wrthsefyll yr anawsterau economaidd presennol. Mae’r camau i gwtogi’r sector cyhoeddus, y mae economi’r rhanbarth yn dibynnu’n helaeth arno, yn arwain at golli cyfleoedd gwaith a cholli hyder, yn ogystal â gostwng safon gwasanaethau cyhoeddus; ac mae hyn oll yn ychwanegu at yr anfantais sy’n bodoli eisoes.

Tabl 1. Ymglymiad Prifysgol Aberystwyth â’r cronfeydd strwythurol ar hyn o bryd

Prosiect

Gwerth y prosiect (€)m

Prosiect

Gwerth y prosiect (€)m

KESS

33.00

LCRI

7.00

ATM

21.67

Technocamps

5.98

BEACON*

20.09

SEREN

10.00

HPC Cymru

40.00

Susfish

2.90

SAW

13.40

SEACAMS

23.60

ASTUTE

26.85

SMARTCoasts*

4.35

SLNIW

1.70

BOBL*

2.00

PROSoil*

2.00

CLNIW

1.80

WISE 2*

14.8

 

 

*Prifysgol Aberystwyth sy’n arwain y prosiect

CYFANSWM cronfeydd arian PA

£23.12m

Cyfanswm gwerth y prosiectau i’r rhanbarth

 

251.14m

 

2.         A gredwch fod y prosiectau amrywiol sy’n cael eu hariannu drwy gronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru yn rhoi gwerth am arian?

Mae’r arbenigedd a’r strwythurau gofynnol ar waith yn PA i ddefnyddio ymchwil flaengar a gwybodaeth arbenigol er budd economi’r rhanbarth. Ar ôl datblygu’r systemau trosglwyddo gwybodaeth hyn, mae’n dod yn fwyfwy darbodus defnyddio’r adnoddau o fewn PA i hybu a chefnogi datblygiad economaidd ar draws y rhanbarth.

Mae’r pwyslais cadarn ar weithio mewn partneriaeth o fewn y rhaglen Gydgyfeiriant wedi creu gwerth ychwanegol, gan fod modd i’r prosiectau fanteisio ar arbenigedd y partneriaid er budd y grŵp targed.

Esiampl: gwerth am arian prosiect BEACON:

£20.1M yw cyfanswm gwerth prosiect BEACON, gyda £10.7M ohono’n gyllid grant gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Felly, mae’r sefydliadau academaidd sy’n bartneriaid wedi codi swm cyfatebol o arian annibynnol sy’n gyfwerth â’r arian a ddarparwyd gan WEFO. Dyma’r metrigau sy’n gysylltiedig â’r cyllid hwnnw:

ALLBYNNAU

CYFANSWM

Mentrau a gafodd eu cynorthwyo

202

Ymchwil a Datblygu ar y cyd

25

CANLYNIADAU

 

Swyddi gros a gafodd eu creu

67

Mentrau a gafodd eu creu

3

Budd o ran elw

£1,680,000

Buddsoddiad a gafodd ei gymell

£3,360,000

Cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau a gafodd eu cofrestru

7

Cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd neu well a gafodd eu lansio

16

 

Yna, mae angen cymharu’r metrigau hyn â photensial y farchnad, a hynny yng Nghymru a thu hwnt o bosib.

·         O dybio cost gyfartalog deunydd crai cemegol i’r busnesau hyn, gallwn bennu bod i’r farchnad botensial o tua £1.2bn (gweler y tabl isod). Amcangyfrifir disodli 30% o’r cemegau diwydiannol ar sail economaidd yn unig yn y tymor agos, a disgwylir twf yn y dyfodol. Mae hyn yn gyfwerth â marchnad hygyrch o £360m.

·         O edrych ar glystyrau cadarn ychwanegol ar hyd coridor yr M62 ac yn Birmingham, sy’n hygyrch drwy gysylltiadau trafnidiaeth da, gallai’r gyfran gynyddu o 16% i 25% o farchnad y DU, gyda chyfle i gael marchnad gwerth £560m.

·         Mae BEACON yn gwneud y gorau o’r tebygolrwydd y gall prifysgolion a mentrau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ennill segmentau o farchnad sy’n tyfu. Disgwylir i’w gwerth gyrraedd £4-12 biliwn yn y DU erbyn 2025.

Os byddwn yn llwyddo i dreiddio’n sylweddol i’r sectorau uchod, bydd yn sicrhau adenillion sylweddol ar sail buddsoddiad cychwynnol y gronfa strwythurol. Felly, mae’n dangos gwerth am arian.

3.         A oes gennych bryderon ynghylch sut y defnyddir y gronfa arian cyfatebol a dargedir? A oes gennych bryderon ynghylch defnyddio gwariant adrannol Llywodraeth Cymru fel arian cyfatebol? Pa effaith y credwch y mae toriadau yn y sector cyhoeddus wedi’i chael (ag y gallant ei chael) ar argaeledd arian cyfatebol y sector cyhoeddus?

 

Nid oes gennym unrhyw bryderon ynghylch defnyddio’r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir neu wariant Llywodraeth Cymru fel arian cyfatebol. Fodd bynnag, mae’n anochel y bydd toriadau yng nghyllidebau’r sector cyhoeddus yn ei gwneud yn llawer anoddach cael gafael ar arian cyfatebol.

 

Crëodd yr ansicrwydd ynghylch cyfleoedd am arian cyfatebol yn nyddiau cynnar y rhaglen hinsawdd ansicr a nerfus. Cyfrannodd hyn at oedi o ran cyflwyno’r rhaglen a diffyg ymrwymiad mewn rhai cylchoedd. Codwyd cwestiynau parhaus hefyd am y pedair cyfradd o ran gorbenion ar gyfer y sector Addysg Uwch yng Nghronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Mae hyn yn parhau i beri anawsterau mewn rhai achosion ac mae wedi peri i rai fagu agwedd negyddol ynghylch bod yn rhan o’r rhaglen. Byddem yn rhoi croeso mawr i gytundeb ysgrifenedig clir gyda WEFO o ran gorbenion cyn cychwyn y rhaglen nesaf.

 

4.         Pa mor effeithiol y bu Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru o ran monitro a gwerthuso effaith prosiectau?

 

Mae’r trosiant uchel ymhlith staff WEFO wedi creu anawsterau o ran meithrin perthynas waith effeithiol gyda swyddogion ac o ran adeiladu corff o wybodaeth a dealltwriaeth am y prosiectau sy’n cael eu hariannu.

 

Mae’r camau i gyflwyno archwiliadau bob chwe mis ar gyfer prosiectau INTERREG, yn hytrach nag archwiliadau blynyddol, hefyd wedi ychwanegu’n sylweddol at y baich gweinyddol. Nid yw’n ymddangos bod i’r newid unrhyw fantais amlwg ac mae ymdeimlad cryf nad yw’n gymesur â’r dasg.

 

BEACON

Mae tîm BEACON yn cyfarfod â staff WEFO unwaith bob chwarter i adolygu’r cynnydd o safbwynt ariannol ac o safbwynt effaith y prosiect. Mae hyn yn gyfle i dîm rheoli BEACON roi gwybod i’r swyddogion am effaith y prosiect, yn ychwanegol at yr adnodd monitro ar-lein sydd ar gael ar wefan WEFO. Mae’r anhawster o ran arddangos effaith prosiect yn aml yn gysylltiedig â’r ffordd gyfyngedig y mae WEFO yn nodi allbynnau a chanlyniadau.

 

Ar wahân i’r materion a nodir uchod, mae gan PA yr adnoddau a’r arbenigedd priodol, nid yn unig i gyflawni’r holl ofynion monitro a gwerthuso’n gymwys, ond hefyd i roi ‘arferion gorau’ ar waith yn y meysydd hyn. Mae gan PA berthynas waith dda iawn gyda WEFO i sicrhau ei bod yn cydymffurfio’n llwyr.

 

5.         A oes gennych bryderon ynghylch y gallu i gynnal y gweithgareddau a’r gwaith a gyflawnir drwy brosiectau a ariennir yn ystod cylch cyfredol y cronfeydd strwythurol y tu hwnt i 2013?

 

Mae cynaliadwyedd wedi bod yn rhan annatod o’r gwaith o gynllunio a datblygu pob prosiect a gweithgaredd, wedi’i ategu gan y berthynas waith agos sy’n cael ei meithrin rhwng y partneriaid. Fodd bynnag, mae dirywiad annisgwyl a chyflym yr economïau Cenedlaethol ac Ewropeaidd wedi creu heriau ychwanegol o ran cynaliadwyedd. Mae hwn yn faes lle gall PA wneud cyfraniad positif iawn drwy gynnal a chynorthwyo’i rhwydwaith helaeth o bartneriaid.

 

6.         Beth yw eich profiad chi o gael gafael ar Gyllid Strwythurol Ewropeaidd?

 

Ar y cyfan, bu profiad PA o gael gafael ar Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn bositif. Fodd bynnag, yn achlysurol, mae ‘costau cyfle’, o ran yr ymrwymiad amser ac adnoddau sy’n ofynnol i baratoi cynigion heb ganlyniadau y gellir eu rhagweld, yn arwain at ddiffyg brwdfrydedd ac ymrwymiad ymhlith rhai cydweithwyr, yn enwedig os yw eu cynigion blaenorol wedi cael ymateb siomedig. Yn ogystal, mae dryswch o ran materion ‘cymorth gwladol’, yn enwedig gyda phartneriaid, wedi peri oedi mawr a datgymalu rhai partneriaethau posib. Ni all sefydliadau Addysg Uwch ond cadw trefn ar eu cymorth gwladol eu hunain – ni ellir disgwyl iddynt orfodi trefniadau cymorth gwladol y sefydliadau sy’n bartneriaid iddynt. Rydym yn awgrymu bod WEFO’n ysgwyddo cyfrifoldeb dros y mater hwn (e.e. defnyddio esemptiadau bloc cyffredinol).

 

7.         A yw’r sector preifat yng Nghymru wedi ymgysylltu’n ddigonol â’r broses o gael gafael ar Gyllid Strwythurol Ewropeaidd??

 

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli mewn ardal wledig iawn, lle mae Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) yn nodweddu economi’r rhanbarth. Mae hyn yn gosod heriau penodol i’r sector preifat o ran ymgysylltu â Chronfeydd Strwythurol Ewrop. Fodd bynnag, drwy feithrin perthynas waith agos rhwng PA a nifer o fusnesau lleol a rhanbarthol, bu modd annog cyfradd gymharol uchel o ymgysylltu. Mae’r ‘costau’ sydd ynghlwm wrth gyfle, a nodir uchod, o reidrwydd yn rhwystro BBaCh bach iawn rhag ymgysylltu â’r broses, oherwydd nad oes ganddynt yr amser a’r adnoddau gofynnol i’w buddsoddi mewn cyfle sy’n ymddangos yn ansicr. Gall y gofynion o ran cymorth gwladol sydd ynghlwm wrth brosiectau Ymchwil a Datblygu cydweithredol, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud â pherchenogaeth Eiddo Deallusol a rhannu costau, fod yn anodd i rai BBaCh, ac mae gofyn i staff prosiect ddefnyddio dull medrus i drin a thrafod y materion hyn. Mae hyn yn galw am lawer o adnoddau, ond mae’n hanfodol i sicrhau nad yw materion cydymffurfio â gofynion cymorth gwladol yn rhwystro’r sector preifat rhag ymgysylltu â’r prosiectau. Serch hynny, mewn hinsawdd economaidd sy’n anodd iawn ar hyn o bryd, mae’r cronfeydd strwythurol yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig i fentrau bach, oherwydd bydd eu goroesiad a’u heffeithlonrwydd yn rhan bwysig o’r camau i adfer yr economi yn y dyfodol.

 

8.         Yn 2009, llwyddodd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i negodi cynnydd yng nghyfraddau ymyrryd y rhaglenni gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer dwy raglen cydgyfeiriant Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2010, nododd y Pwyllgor Menter a Dysgu fod Asiantaeth Datblygu Rhanbarthol y De-orllewin wedi negodi cyfraddau ymyrryd uwch gyda’r Comisiwn Ewropeaidd. A yw Cymru’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r cyfraddau ymyrryd uwch hyn?

 

Parodd y gyfradd ymyrryd uwch a negodwyd gan WEFO yn 2009 i Gronfeydd Cydgyfeiriant yr ERDF a’r ESF fod yn fwy deniadol i PA ac, yn sgil hynny, magodd y sefydliad agwedd fwy cadarnhaol tuag at y Cronfeydd Strwythurol. Nid oeddem yn sylweddoli bod Asiantaeth Datblygu Rhanbarthol y De-orllewin wedi negodi cyfraddau ymyrryd uwch gyda’r Comisiwn a byddem yn croesawu unrhyw gyfle i drafod y mater hwn ymhellach gyda WEFO, fel y bo’n briodol.